Nodyn gwybodaeth ar Reoliad 2 (Cymru)
Copi y gellir ei argraffu: Reg-2_Welsh.pdf (dwi.gov.uk).
Mae Rheoliad 2 yn diffinio’r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.
Ystyr ‘y Ddeddf’ yw Deddf y Diwydiant Dŵr 1991;
ystyr ‘achrediad addas’ yw achrediad yn unol ag iso17024 neu iso17025;
disodlwyd ”gwaith monitro archwilio a gwirio” gan baramedrau “Grŵp A a Grŵp B” fel rhan o’r diwygiadau a wnaed i’r Rheoliadau yn 2017;
ystyr ‘defnyddiwr’ yw person y darperir cyflenwad dŵr preifat iddo er mwyn i’r dŵr gael ei yfed gan bobl;
ystyr ‘diheintio’ yw proses o drin dŵr er mwyn dileu pob micro-organeb bathogenig a phob parasit pathogenig a fyddai fel arall yn bresennol yn y dŵr, neu eu gwneud yn anniweidiol i iechyd bobl, a dylid dehongli ‘wedi’i ddiheintio’ felly;
Ystyr E.coli yw Escherichia coli, sy’n facteria dangosol ysgarthol;
ystyr ‘dos dangosol’ yw’r dos effeithiol cyflawnedig ar gyfer 1 flwyddyn o amlyncu o ganlyniad i’r holl radioniwclidau o darddiad naturiol ac artiffisial y canfuwyd eu bod yn bresennol mewn cyflenwad dŵr y bwriedir i bobl ei yfed, ac eithrio tritiwm, potasiwm40, radon a chynhyrchion dadfeilio radon byrhoedlog;
ystyr ‘paramedr dangosol’ yw paramedr a restrir yn Nhabl C o Atodlen 1;
ystyr ‘awdurdod lleol’ yw unrhyw un o’r canlynol:
(a) yng Nghymru, cyngor sir neu fwrdeistref sirol,
(b) yn Lloegr, cyngor dosbarth neu gyngor sir lle nad oes unrhyw gyngor dosbarth;
(c) cyngor dosbarth;
(ch) cyngor sir lle nad oes unrhyw gynghorau dosbarth.
ystyr ‘paramedr’ yw priodwedd, elfen, organeb neu sylwedd a restrir yng ngholofn gyntaf y Tablau yn Atodlen 1 fel a ddarllenir, pan fo’n briodol, gyda’r nodiadau i’r Atodlen honno a’r Tablau hynny;
ystyr ‘crynodiad neu werth rhagnodedig’, mewn perthynas ag unrhyw baramedr, yw’r crynodiad neu’r gwerth uchaf neu isaf a nodir mewn perthynas â’r paramedr hwnnw yn y Tablau yn Atodlen 1 fel y’u mesurir drwy gyfeirio at yr uned fesur a nodir felly, ac fel a ddarllenir, pan fo’n briodol, gyda’r nodiadau i’r Tablau hynny;
ystyr ‘cyflenwad dŵr preifat’ yw cyflenwad dŵr ac eithrio cyflenwad a ddarperir yn uniongyrchol gan ymgymerwr dŵr neu gyflenwr dŵr trwyddedig, ac sy’n cynnwys yr holl asedau ffisegol o’r man tynnu dŵr i’r man defnyddio, gan gynnwys pob pibell, ffitiad a thanc cysylltiedig;
ystyr ‘person perthnasol’1 yw unrhyw un neu bob un o’r canlynol:
a) Perchennog a deiliad (yr un person neu bersonau gwahanol o bosibl) safle (tir ac unrhyw adeiladau arno), y cyflenwir dŵr iddo at ddibenion domestig neu ddibenion cynhyrchu bwyd drwy gyflenwad preifat;
b) Perchennog a deiliad (yr un person neu bersonau gwahanol o bosibl) tir y lleolir unrhyw ran o’r cyflenwad arno;
c) Unrhyw berson arall sy’n arfer pwerau rheoli mewn perthynas â’r cyflenwad hwnnw.
1Os oes mwy nag un person perthnasol, nid yw Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn nodi sut y caiff costau sy’n
gysylltiedig â chyflenwadau dŵr preifat eu rhannu rhwng personau perthnasol.
Fersiwn 1 o Reoliadau 2017 – Ionawr 2018