Guidance documents

Nodyn gwybodaeth ar Reoliad 9 (Cymru)

Cefndir

Mae Rheoliad 9 yn gymwys i bob cyflenwad dŵr preifat sy’n cyflenwi:

a) cyfaint dyddiol cyfartalog o 10m3 neu fwy o ddŵr at ddibenion domestig (Noder: os na ellir nodi faint o ddŵr a gyflenwir mae hyn yn cyfateb i tua 50 o bobl neu fwy); neu
b) dŵr fel rhan o weithgaredd masnachol neu gyhoeddus.

Gweithgaredd cyhoeddus

Mae cyflenwadau sy’n rhan o weithgaredd cyhoeddus yn gyflenwadau sy’n cyflenwi unrhyw safle lle y darperir y dŵr i’w yfed gan y cyhoedd (ceir diffiniad o ddŵr y bwriedir iddo gael ei yfed gan bobl yn y Nodyn Gwybodaeth ar Reoliad 2 a 3). Mae hyn yn cynnwys adeiladau cyhoeddus, y rhoddir enghreifftiau ohonynt yn yr atodiad i lythyr gwybodaeth yr Arolygiaeth Dŵr Yfed dyddiedig 10/2004. Mae’r rhestr ganlynol yn un ddangosol ac nid yw’n holl gynhwysfawr:

Addysg 

Ysgol/coleg

Addysg bellach

Prifysgol

Meithrinfeydd

Gwestai/bwytai 

Caffis

Tafarndai

Bwytai

Gwestai

Tai llety

Gwledd/derbyniad

Bar gwin

Gwersyllfa

Arddangosfa 

Amgueddfa

Oriel gelf

Canolfan arddangosfeydd

Canolfan gynadledda

Chwaraeon 

Maes chwaraeon/stadiwm

Canolfan hamdden

Pwll nofio

Clybiau iechyd

Atyniadau i dwristiaid

Clybiau nos

Theatr/neuaddau cyngerdd

Canolfan sglefrio

Sinema

Adeilad hanesyddol/plastai

Amrywiol 

Triniwr gwallt

Salon harddwch

Carchar/canolfan gadw

Canolfan gymunedol

Canolfan waith

Canolfan dai

Ymhlith sefyllfaoedd eraill lle y cyflenwir dŵr fel rhan o weithgaredd cyhoeddus mae sefyllfaoedd lle y cynigir cyflenwad o ddŵr yfed i’r cyhoedd mewn gwyliau, ffeiriau a digwyddiadau dros dro eraill (lle y defnyddir y dŵr hefyd fel rhan o weithgaredd masnachol megis gweithrediadau bwyd). Mae cyflenwadau dŵr preifat sy’n cyflenwi ffynhonnau dŵr, gan gynnwys y rhai sy’n rhan o atyniad treftadaeth (e.e. ffrydiau a grotos hynafol), i’w yfed gan bobl hefyd o fewn cwmpas gweithgaredd cyhoeddus at ddibenion Rheoliad 9.

Gweithgareddau masnachol

Mae cyflenwadau lle mae’r dŵr yn cael ei ddefnyddio fel rhan o weithgaredd masnachol yn cynnwys y canlynol, lle mae’r meini prawf a nodir yn gymwys:

a) Cynhyrchu bwyd

Mae hyn yn cynnwys pob safle lle y defnyddir y dŵr mewn unrhyw fenter cynhyrchu bwyd ar gyfer gweithgynhyrchu, prosesu, cyffeithio neu farchnata cynhyrchion neu sylweddau y bwriedir iddynt gael eu bwyta/yfed gan bobl oni fydd yr awdurdod cymwys (yn yr achos hwn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)) yn fodlon na all ansawdd y dŵr effeithio ar iachusrwydd y bwyd ar ei ffurf orffenedig. Mae canllawiau’r ASB yn cadarnhau bod yn rhaid defnyddio dŵr yfadwy pan gaiff ffrwythau a llysiau ffres y gellir eu bwyta’n amrwd eu golchi a’u glanhau am y tro olaf, ond bod modd defnyddio dŵr glân (gweler http://www.food.gov.uk/enforcement/enforcework/food-law/guidanceenforcement/private-water-supply-guidance) pan gaiff cnydau eu golchi am y tro cyntaf.

Gellir defnyddio dŵr glân hefyd mewn llaethdy i olchi anifeiliaid a glanhau a golchi cyfarpar ac mewn systemau oeri ar yr amod nad yw’n effeithio ar iachusrwydd y bwyd ar ei ffurf orffenedig.

Mewn rhai achosion gellir cludo dŵr o’i ffynhonnell i un neu fwy o leoliadau (depos, ffatrïoedd ac ati) mewn poteli, cynwysyddion neu danceri mewn ardaloedd awdurdod lleol gwahanol, lle y defnyddir y dŵr fel rhan o weithgaredd masnachol. Yn yr achosion hyn dylai pob awdurdod lleol dan sylw gydweithio er mwyn sicrhau y bodlonir holl ofynion angenrheidiol y Rheoliadau.

Os defnyddir dŵr o gyflenwad dŵr preifat mewn prosesau cynhyrchu bwyd ar gyfer unrhyw beth ac eithrio cynhyrchu bwyd ar lefel gynradd (tyfu, cynaeafu neu dynnu deunyddiau crai ar gyfer diwydiannau eraill, gan gynnwys, godro a chynhyrchu anifeiliaid a ffermir cyn eu lladd) mae’n rhaid iddo fodloni Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Lloegr) 2016. Nid yw cyflenwadau sy’n cyflenwi parlyrau godro lle y defnyddir y dŵr at ddibenion golchi yn unig yn gyflenwad Rheoliad 9. Cwmpesir hyn gan gyfraith bwyd a’r corff rheoleiddio yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd. Am ragor o fanylion gweler y Nodyn Gwybodaeth ar gyfer Rheoliad 3 (cwmpas):

b) Busnesau sy’n dibynnu ar gyflenwad dŵr preifat lle y’i defnyddir at ddibenion domestig. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Gwestai, tai llety, bwytai, caffis, lleoliadau gwely a brecwast, gan gynnwys llety Airbnbs, gan gynnwys anheddau preifat unigol lle mae llety gwely a brecwast ar gael;
  • Unrhyw lety gwyliau a gaiff ei osod;
  • Safleoedd carafannau, gwersyllfaoedd a chyfleusterau tebyg, p’un a ydynt yn rhai tymhorol neu ar agor drwy’r flwyddyn;
  • Gofalwyr plant cofrestredig.

Isod rhoddir enghreifftiau lle nad yw dŵr yn cael ei gyflenwi fel rhan o weithgaredd masnachol ac na fyddai, felly, o fewn cwmpas Rheoliad 9:

  • Cyflenwadau i eiddo neu dai a ddarperir fel rhan o swydd, pan fydd gan ddeiliaid yr eiddo hawliau meddiannu a chynnal a chadw arbennig sy’n debyg i berchenogaeth, e.e. bwthyn clwm, tenantiaeth/hawliau meddiannu gydol oes. Mae’r rhain yn debygol o fod o fewn cwmpas Rheoliad 10 neu 11.
  • Tenantiaeth amaethyddol – lle nad darparu llety yw prif ddiben y denantiaeth a lle mae’r denantiaeth, fel arfer, yn un hirdymor â rhwymedigaethau cynnal a chadw sy’n debyg i berchenogaeth. Mae’r rhain yn debygol o fod o fewn cwmpas Rheoliad 10 neu 11.
  • Cartrefi maeth – darperir iawndal yn hytrach na thaliadau (darparu cartref yn hytrach na gwasanaeth). Mae’r cyflenwadau hyn o fewn cwmpas Rheoliad 10 neu 11.
  • Cyflenwad i annedd unigol, sydd ar rent i denantiaid. Mae’r rhain o fewn cwmpas Rheoliad 11.
  • Cartrefi cymdeithasol a gynigir gan gynghorau neu gymdeithasau tai nid er elw. Mae’r rhain yn debygol o fod o fewn cwmpas Rheoliad 10 neu 11.
  • Digwyddiadau dros dro nad ydynt yn gysylltiedig â chyflenwad dŵr preifat (prif gyflenwad dŵr, tanceri a bowseri). Yn yr achosion hyn dylai awdurdodau lleol sicrhau bod y trefnwyr yn cydymffurfio â BS8551.

A yw cyflenwad preifat sy’n cyflenwi busnes neu sefydliad masnachol yn gyflenwad Rheoliad 9?

Yn y rhan fwyaf o achosion, nid ystyrir bod swyddfa busnes, nac unrhyw sefydliad a ddefnyddir at ddibenion masnachol, yn adeilad cyhoeddus ac oni bai bod y dŵr sy’n cael ei ddefnyddio yn rhan o weithgaredd masnachol, nid yw’r cyflenwad yn gyflenwad Rheoliad 9. Os yw gweithwyr y busnes yn defnyddio’r cyflenwad preifat at unrhyw ddibenion domestig, heb orfod talu ffi (er enghraifft, os caiff diodydd eu paratoi mewn man gorffwys i staff neu ffreutur am ddim), mae’r cyflenwad yn ddarostyngedig i ofynion Rheoliad 10 neu 11 o Reoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017 (oni bai bod mwy na 10m3 o ddŵr y dydd yn cael ei ddefnyddio). At hynny, o dan gyfraith iechyd a diogelwch, mae’n ddyletswydd ar y cyflogwr i ddarparu dŵr ar gyfer cyfleusterau yfed a glanweithdra i gyflogwyr ac ymwelwyr.

Os yw’r busnes yn gwerthu cynhyrchion lle mae’r dŵr o’r cyflenwad dŵr preifat yn rhan o gynhwysyn, e.e. diodydd, sy’n cael eu gwerthu am ffi mewn ffreutur a ddefnyddir gan ei staff, yna mae gofynion Rheoliad 9 o Reoliadau Cyflenwdau Dŵr Preifat (Cymru) 2017 yn gymwys.

Os yw busnes yn darparu dŵr sy’n dod o gyflenwad dŵr preifat drwy beiriant gwerthu masnachol am ffi, yna mae Rheoliad 9 yn gymwys.

Os defnyddir anheddau domestig unigol, neu unrhyw safleoedd eraill, a wasanaethir gan gyflenwad dŵr preifat, fel canolfan neu swyddfa gofrestredig y caiff gweithgaredd masnachol ei weithredu ohoni, efallai y bydd Rheoliad 9 yn gymwys. Mae enghreifftiau o’r mathau hyn o gyflenwadau Rheoliad 9 yn cynnwys y canlynol:

  • Pan fydd y gweithgaredd masnachol sy’n cael ei weithredu o’r annedd ddomestig unigol yn defnyddio’r dŵr mewn unrhyw fenter cynhyrchu bwyd ar gyfer gweithgynhyrchu, prosesu, cyffeithio neu farchnata cynhyrchion neu sylweddau i’w bwyta/yfed gan bobl, a/neu pan ddefnyddir y dŵr at ddibenion domestig gan aelodau o’r cyhoedd. Er enghraifft, annedd sy’n cynnig cyfleusterau ystafell de i’r cyhoedd.
  • Pan ddefnyddir annedd ddomestig unigol fel rhan o fusnes a bod cyflogeion y busnes yn dibynnu ar y cyfleusterau cegin a’r cyfleusterau ymolchi i ddefnyddio dŵr at ddibenion domestig A bod mwy na 10m3 o ddŵr y dydd yn cael ei gyflenwi i’r annedd ddomestig unigol. (Os yw’n llai na 10m3 y dydd mae’n gyflenwad Rheoliad 10). Enghraifft bosibl o’r math hwn o drefniant yw cytiau cŵn neu stablau lle mae gweithwyr yn defnyddio’r annedd ddomestig unigol fel ystafell orffwys.
  • Pan fydd annedd ddomestig unigol yn cael ei defnyddio at ddibenion gofalu am blant fel rhan o fusnes cofrestredig a bod y plant yn dibynnu ar y cyfleusterau cegin a’r cyfleusterau ymolchi i ddefnyddio dŵr at ddibenion domestig.

Monitro

Mae’n rhaid i gyflenwadau Rheoliad 9 gael eu monitro yn unol ag Atodlen 2 i’r Rheoliadau ac mae’n rhaid gwneud unrhyw waith monitro ychwanegol y mae’r asesiad risg (gweler Rheoliad 6) yn dangos ei fod yn angenrheidiol. Nodir canllawiau pellach ar amlderau monitro yn y Nodyn Canllaw ar gyfer Rheoliad 7 (Monitro).

Fersiwn o reoliadau 2017 – Gorffennaf 2018