Guidance documents

Nodyn gwybodaeth ar Reoliad 23 (Cymru)

Copi y gellir ei argraffu: Reg-23_Welsh.pdf (dwi.gov.uk).

Ffioedd

Mae Rheoliad 23 yn caniatáu i awdurdodau lleol godi hyd at uchafswm ffi am gyflawni dyletswyddau penodol o dan y Rheoliadau. Mae Atodlen 6 i’r Rheoliadau yn nodi’r uchafswm a ganiateir a’r amodau y mae’n rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â hwy wrth bennu ffi. Dim ond er mwyn adennill y gost flynyddol yr eir iddi wrth gynnal gweithgaredd penodol y gall awdurdod lleol ddefnyddio’r pŵer hwn. Nid yw’r uchafswm ffi yn cynnwys Treth ar Werth.

Gweithgareddau y Gellir Codi Tâl Amdanynt

Gweithgaredd Rheoleiddiol 

Uchafswm ffi (£)

Asesiad risg ar gyfer cyflenwadau Rheoliad 9

Asesiad risg ar gyfer cyflenwadau Rheoliad 10 ac 11

700

300

Ymweliad samplu (fesul ymweliad) 

100

Ymchwiliad e.e. i gŵyn neu achos o dorri safon reoleiddiol (fesul ymchwiliad)

250

Costau profion labordy (dadansoddi sampl)

Ar gyfer cyflenwadau Rheoliad 10 neu 11

A gymerir ar gyfer paramedrau Grŵp A

A gymerir ar gyfer paramedrau Grŵp B

 

25

110

600

Wrth gynnal ymchwiliad, os cymerir rhagor o samplau fel rhan o’r ymchwiliad, mae’n rhaid cynnwys y gost a’i hadennill hyd at yr uchafswm a nodwyd ar gyfer ymchwiliad. Ni ddylid codi tâl ychwanegol am ymweliad samplu.

Gall awdurdod lleol godi tâl am ymweliad samplu os mai’r diben yw gwirio effeithiolrwydd gwelliannau, e.e. ar ôl cwblhau camau gweithredu a nodir mewn hysbysiad neu gynllun gweithredu.

Ni ddylai awdurdod lleol godi tâl am sampl a gymerir ac a ddadansoddir i gadarnhau neu egluro canlyniadau’r dadansoddiad o sampl flaenorol yn unig.

Lle mae awdurdod lleol yn monitro cyflenwad Rheoliad 10, os bydd yn amau bod y cyflenwad yn berygl posibl i iechyd pobl, ni ddylai codi tâl ar y perchennog na’r deiliad am wneud hynny, dim ond os gofynnodd y perchennog neu’r deiliad i’r awdurdod lleol wneud y gwaith monitro ar gyfer y cyflenwad.

Os bydd yr asesiad risg yn nodi bod paramedrau eraill nas nodir gan y rheoliadau yn peri risg i iechyd pobl, gellir cynnwys y taliadau yn yr uchafswm ffi o £600 y caniateir iddi gael ei chodi am asesiad risg.

Gall awdurdodau lleol gyfyngu ar gost gwaith asesu risg drwy ddefnyddio gwybodaeth gan randdeiliaid eraill, e.e. Asiantaeth yr Amgylchedd, CNC, y cwmni dŵr lleol, BGS, yr Arolygiaeth Dŵr Yfed. Gellir cyfyngu ar gostau hefyd drwy anfon llythyr at y personau perthnasol ymlaen llaw yn gofyn am wybodaeth am y cyflenwad.

Bydd taliadau yn amrywio rhwng awdurdodau lleol oherwydd nifer o ffactorau (e.e. nifer y cyflenwadau, lleoliadau ac ati). Dylai fod gan awdurdodau lleol gyfundrefn codi tâl dryloyw sy’n hawdd ei deall a’i defnyddio e.e. ar eu gwefan.

Os caiff gwaith monitro ei wneud ar un eiddo i gynrychioli sawl eiddo ar un cyflenwad, dylai’r personau perthnasol gytuno pwy sy’n gyfrifol am dalu’r ffi. Dylai personau perthnasol ddogfennu unrhyw gytundebau ynghylch talu unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â thaliadau parhaus, e.e. gwaith monitro rheoleiddiol ac asesu risg, gwaith cynnal a chadw, costau gwasanaethu gwelliannau

Codir ffioedd ar y person(au) perthnasol, fel y penderfynir gan yr awdurdod lleol. Os oes mwy nag un person perthnasol, nid yw’r ddeddfwriaeth yn nodi sut y dylid dosrannu costau (Gweler y Nodyn Gwybodaeth ar Reoliadau 2 a 3).

Fersiwn 1 o Reoliadau Cymru – Ionawr 2018