Guidance documents

Nodyn gwybodaeth ar reoliad 8 (fersiwn diwygiedig)

Mae Rheoliad 8 o Reoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017 (“y Rheoliadau”) a Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Lloegr) 2016 (“y Rheoliadau”) yn nodi’r gofynion ynglŷn â monitro ac asesu risg ar gyfer math penodol o drefniant cyflenwi o’r enw ‘dosbarthiad pellach cyflenwadau gan ymgymerwyr dŵr neu drwyddedeion cyflenwi dŵr’, y cyfeirir ato’n gyffredin fel ‘system dosbarthu ymlaen’, neu ‘system ddosbarthu breifat’. Yn y canllawiau hyn, cyfeirir at y trefniant hwn fel cyflenwad rheoliad 8. Cyfeirir at ymgymerwr dŵr a/neu gyflenwr trwyddedig yn y canllawiau hyn fel cwmni dŵr.

Beth yw trefniant cyflenwi rheoliad 8?

Cyflenwad rheoliad 8 yw pan fydd un neu fwy o ddefnyddwyr yn anuniongyrchol yn cael cyflenwad dŵr o system cyflenwi dŵr cwmni dŵr drwy drydydd parti. Ran amlaf, mae hyn yn digwydd drwy system gyflenwi’r trydydd parti ei hun. Yn y trefniadau hyn, nid cwsmeriaid i gwmni dŵr yw’r derbynwyr ac nid ydynt wedi’u henwi ar systemau bilio cwmnïau dŵr. Yn hytrach, mae’r defnyddwyr hyn yn talu partïon eraill am eu dŵr, neu’n cael y dŵr am ddim. Gall taliadau gael eu gwneud i berchennog safle, cwmni rheoli neu unrhyw berson neu sefydliad heblaw cwmni dŵr. Ran amlaf, bydd y sawl sy’n cael y taliadau hyn yn gwsmer i gwmni dŵr sy’n cael ei filio’n uniongyrchol gan y cwmni dŵr.

Pan nad oes gan y parti arall sy’n prynu ac yn dosbarthu’r cyflenwad ymlaen o’r cwmni dŵr benodiad neu drwydded, rhaid i’r ffioedd y maen nhw’n eu codi ar ddefnyddwyr gydymffurfio â Gorchymyn Ailwerthu Dŵr 2006. Mae Ofwat wedi darparu canllawiau ar y Gorchymyn Ailwerthu Dŵr (mae’r Gorchymyn Ailwerthu Dŵr ynghlwm wrth y canllawiau ar dudalen 16).

Asesu risg cyflenwadau rheoliad 8

Rhaid i’r awdurdodau lleol asesu risg y cyflenwadau hyn ac adolygu’r asesiad risg hwnnw bob pum mlynedd wedyn, yn unol â rheoliad 6. Pan fo perygl posibl i iechyd pobl, mae’r awdurdodau lleol o dan ddyletswydd i orfodi’r gyfraith yn unol â rheoliad 20 (18 yn Lloegr) o’r Rheoliadau.

Dylai’r asesiad o risg cyflenwadau rheoliad 8 ystyried unrhyw achosion posibl o dorri Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999. Dyletswydd y cwmni cyflenwi dŵr yw gorfodi’r rheoliadau hyn ac felly dylid cynnal trafodaethau gyda’r cwmni dŵr fel rhan o’r asesiad risg. Byddai’n effeithlon cyfuno ymweliadau’r awdurdodau lleol â safleoedd i asesu risg ag ymweliadau arolygwyr ffitiadau dŵr, gan y bydd y naill yn bwydo’r llall.

Monitro cyflenwadau rheoliad 8

Rhaid sefydlu gofynion monitro cyflenwadau rheoliad 8 ar sail canlyniad yr asesiad risg. Dylid adolygu paramedrau’r profion ac amlder y profion, a’u diwygio yn ôl yr angen, bob pum mlynedd fel rhan o’r adolygiad asesu risg.

Gwahardd a throseddau

Mae creu cyflenwad rheoliad 8 newydd, a defnyddio system gyflenwi cwmni dŵr, gan rywun heblaw cwmni dŵr, wedi’u gwahardd yn rhinwedd yr adrannau canlynol o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (y Ddeddf):

  1. Gwahardd cysylltiad heb fabwysiadu: o dan adran 51D o’r Ddeddf, ni chaiff cwmni dŵr ganiatáu i brif bibell ddŵr, neu bibell wasanaeth a adeiladwyd gan drydydd parti (sydd i’w defnyddio i gyflenwi dŵr at ddibenion domestig neu ddibenion cynhyrchu bwyd) gael eu cysylltu â’i system gyflenwi oni bai bod y brif bibell ddŵr neu’r bibell wasanaeth yn perthyn i gwmni dŵr neu o dan reolaeth cwmni dŵr.  
  2. Troseddau ymyrryd â gwaith etc: o dan adran 174 o’r Ddeddf, mae’n drosedd atodi pibell (neu gyfarpar) i unrhyw brif gyflenwad, prif bibell ddŵr neu bibell arall sy’n perthyn i gwmni dŵr, heb gydsyniad y cwmni dŵr.

Gwahardd defnyddio system gyflenwi cwmni dŵr heb awdurdod

Yn ddarostyngedig i eithriadau penodol (yn Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Eithriadau rhag Gwaharddiadau Systemau Cyflenwi) 2005 (“y Rheoliadau Eithriadau”), fel y nodir isod, mae adran 66I o’r Ddeddf yn gwahardd defnyddio system gyflenwi cwmni dŵr heb awdurdod, gan rywun heblaw cwmni dŵr, er mwyn cyflenwi dŵr i unrhyw fangre cwsmer neu rywun sy’n gysylltiedig â chwsmer. Mae gwneud hynny’n gyfystyr â throsedd o dan adran 66I o’r Ddeddf.

Mewn rhai amgylchiadau, gall cyflenwad rheoliad 8 hefyd fynd yn groes i adran 66I o’r Ddeddf, ond, er gwaethaf hyn, rhaid i bob cyflenwad rheoliad 8 gael ei reoleiddio gan awdurdodau lleol.

Eithriadau

Mae’r Rheoliadau Eithriadau yn nodi senarios, a nodir isod, lle nad yw gwaharddiad adran 66I yn gymwys:

  1. sefyllfaoedd lle mae un cwmni dŵr yn defnyddio system gyflenwi cwmni dŵr arall fel rhan o gytundeb neu ddeddfiad, mewn perthynas â chyflenwi dŵr mewn swmp (a elwir yn gyffredin yn “gytundeb cyflenwi swmp rhwng cwmnïau dŵr”); a
  2. sefyllfaoedd lle mae unigolyn yn defnyddio system gyflenwi ymgymerwr dŵr “er mwyn gwneud cyflenwad preifat i unrhyw fangre” gan wneud hynny o dan gytundeb a wnaed gyda’r ymgymerwr dŵr cyn 31 Gorffennaf 2002, gyda chyflenwad o ddŵr wedi’i wneud cyn y dyddiad hwnnw.

Mae pwynt 2 uchod i bob pwrpas yn golygu na ellid creu unrhyw gyflenwadau rheoliad 8 newydd o 31 Gorffennaf 2002 ymlaen. Mae unrhyw gytundebau cyflenwi rheoliad 8 yr ymrwymir iddynt ar ôl y dyddiad hwnnw yn ddiawdurdod ac mae cyflenwad o dan gytundeb o’r fath yn drosedd. Mae cyflenwadau rheoliad 8 a grëwyd cyn 31 Gorffennaf 2002 nad oes ganddynt gytundeb ffurfiol gyda’r cwmni dŵr hefyd yn ddiawdurdod.

Nid cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw ymchwilio i droseddau o dan adran 66(I).