Rheoliad 8 – Cwestiynau ac Atebion
Nodyn gwybodaeth ar reoliad 8 (fersiwn diwygiedig)
Cwestiwn | Ateb | |
1 | Pam mae’r Arolygiaeth wedi penderfynu dileu’r hen ganllawiau ar reoliad 8 a llunio canllawiau newydd? | Diwygiodd yr Arolygiaeth ei chanllawiau er mwyn adlewyrchu adolygiad Defra o ddehongliad cyfreithiol rheoliad 8. |
2 | Pryd mae’r newidiadau hyn yn dod i rym? | Ar unwaith |
3 | Ydy’r Arolygiaeth yn deall faint o waith ychwanegol mae hyn yn mynd i’w greu i’r awdurdodau lleol? | Mae’r Arolygiaeth yn gwybod bod yr awdurdodau lleol yn cymryd eu dyletswydd statudol i ddiogelu iechyd cyhoeddus cyflenwadau dŵr preifat o ddifrif. Mater i’r awdurdodau lleol yw cynllunio, rheoli a chyllidebu ar ei gyfer yw cyflawni sut y caiff y dyletswyddau hyn eu cyflawni. |
4 | Sut mae disgwyl i swyddogion yr awdurdodau lleol benderfynu a yw system ddosbarthu yn peri risg o ran ansawdd dŵr ai peidio pan nad ydyn nhw’n arolygwyr ffitiadau dŵr sydd wedi’u hyfforddi? | Dylai’r awdurdodau lleol ddefnyddio offeryn asesu risg yr Arolygiaeth ar gyfer cyflenwadau rheoliad 8. Efallai y bydd y cwmnïau dŵr lleol yn barod i helpu gyda’r arolygiadau hyn neu o leiaf roi cyngor os gofynnir iddyn nhw. |
5 | Sut mae’r awdurdodau lleol yn canfod a oes ganddyn nhw gyflenwadau rheoliad 8 yn eu hardaloedd ai peidio? | Cynghorir yr awdurdodau lleol i ystyried unrhyw fangreoedd a sefyllfaoedd yn eu hardal lle gall rheoliad 8 fod yn gymwys drwy ddefnyddio canllawiau’r Arolygiaeth. Er nad yw’n ofyniad rheoleiddiol i’r awdurdodau lleol fynd ati i chwilio am gyflenwadau rheoliad 8, nac am unrhyw gyflenwadau dŵr preifat eraill ychwaith, mae hi’n ofynnol iddyn nhw ymchwilio i weld a oes yna amheuaeth bod unrhyw gyflenwad dŵr preifat yn afiach (rheoliad 18 [16 yn Lloegr]) gan gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 20 (18 yn Lloegr) os oes unrhyw gyflenwad dŵr preifat yn beryglus i iechyd pobl. Cynghorir yr awdurdodau lleol hefyd i ymchwilio i unrhyw risg bosibl i ddefnyddwyr o dan eu dyletswyddau ehangach i ddiogelu iechyd pobl. Os bydd unrhyw gyflenwadau rheoliad 8 a oedd yn anhysbys o’r blaen yn dod i’r fei drwy’r ymchwiliadau hyn neu unrhyw ddull arall, rhaid i’r awdurdod lleol ychwanegu’r cyflenwadau hyn at eu cofnodion a’u rheoleiddio yn unol â hynny. |
6 | Pam mae cyflenwadau rheoliad 8 yn cael eu hystyried yn gyflenwadau dŵr preifat pan fo’r dŵr yn dod o system gyflenwi sy’n perthyn i gwmni dŵr? | Tan i’r broses o reoleiddio dosbarthu dŵr ymlaen gael ei chynnwys yn y rheoliadau cyflenwadau dŵr preifat o dan reoliad 8 yn 2009/2010, doedd ansawdd y dŵr mewn cyflenwad i rywun sy’n derbyn cyflenwad o brif gyflenwad trwy rywun heblaw cwmni dŵr ddim yn cael ei rheoleiddio. Roedd hyn yn golygu nad oedd y dŵr yn dod o dan unrhyw ofyniad cyfreithiol iddo fod yn ddiogel i’w yfed neu i’w ddefnyddio. Roedd cynnwys dosbarthu ymlaen yn y rheoliadau cyflenwadau dŵr preifat yn golygu bod gan yr awdurdodau lleol ddyletswyddau i fonitro ac asesu risg y cyflenwadau hyn er mwyn sicrhau nad oedden nhw’n creu perygl posibl (neu wirioneddol) i iechyd. Roedd hefyd yn rhoi pwerau iddyn nhw weithredu pan oedd y dŵr yn afiach ac yn berygl posibl i iechyd. Mae’r holl gyflenwadau rheoliad 8 i fod i gael eu rheoleiddio gan yr awdurdodau lleol. |
7 | A fydd disgwyl i’r awdurdodau lleol reoleiddio dŵr sy’n cael ei gyflenwi trwy bibell gyflenwi gyffredin er mai un person yn hanesyddol oedd yn cael anfoneb gan y cwmni dŵr, a’u bod nhw wedyn wedi codi tâl (neu heb godi tâl) ar eu cymdogion? | Dim ond lle mae dŵr yn cael ei ddosbarthu ymhellach gan rywun nad yw’n gwsmer cwmni dŵr i eiddo lle nad yw’r perchennog/meddiannydd ar restr bilio’r cwmni dŵr. Os yw’r bibell gyflenwi gyffredin yn arwain at system ddosbarthu sy’n eiddo preifat, bydd yn gyflenwad rheoliad 8. Fel arfer, mae pobl ar bibell gyflenwi gyffredin yn cael eu dŵr yn uniongyrchol o system gyflenwi’r ymgymerwr dŵr trwy’r bibell gyffredin honno, nid trwy system ddosbarthu breifat ac yn yr achosion hyn, nid cyflenwad rheoliad 8 mo hyn. Os yw defnyddiwr ar bibell gyflenwi a rennir yn cael ei fil dŵr gan gwmni dŵr, nid yw ar gyflenwad rheoliad 8. |
8 | Pam nad yw’r cwmnïau dŵr yn defnyddio’u pwerau presennol o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr i ddatgysylltu cyflenwadau rheoliad 8 sydd heb drwydded? | Bydd unrhyw broses o ddosbarthu dŵr ymlaen heb drwydded yn mynd heb ei hadnabod nes iddi gael ei darganfod. Efallai nad yw’r cwmnïau dŵr yn gwybod bod dŵr yn cael ei ddosbarthu ymlaen heb drwydded a hyd yn oed os ydyn nhw’n gwybod, cyfyngedig yw eu pwerau i ddatgysylltu. O dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr dim ond mewn amgylchiadau penodol y cân nhw ddatgysylltu. Efallai na fydd y cwmnïau dŵr yn ymwybodol o adran 66(I) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 sy’n gwahardd dosbarthu ymlaen oni bai bod hynny wedi’i eithrio o dan Reoliadau Cyflenwad Dŵr (Eithriadau rhag Gwaharddiadau System Gyflenwi) 2005. Byddan nhw’n cael gwybod am y rheoliadau hyn pan gyhoeddir y canllawiau newydd ar reoliad 8. |
9 | O systemau cyflenwi’r cwmnïau dŵr y mae cyflenwadau rheoliad 8 yn cael eu bwydo, felly pam y disgwylir i’r awdurdodau lleol fonitro ac asesu risg, nid y cwmni dŵr? | Er bod y dŵr yn tarddu o system gyflenwi cwmni dŵr, nid cwsmeriaid i’r cwmni dŵr yw’r defnyddwyr terfynol. Mae’r ffaith bod y dŵr yn cael ei ddosbarthu ymlaen gan rywun heblaw’r cwmni dŵr yn golygu ei fod yn dod o dan ofynion rheoliad 8 o’r Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat. Mae’r rhain yn rhoi’r ddyletswydd i fonitro, ac asesu risg cyflenwadau o’r fath ar yr awdurdod lleol. |
10 | A fyddai digwyddiad dros dro, fel gŵyl gerddoriaeth, sy’n cael ei gyflenwi gan y prif gyflenwad dŵr yn gyflenwad rheoliad 8? | Mewn sefyllfaoedd lle mae trefnydd digwyddiadau yn dosbarthu dŵr y prif gyflenwad ymhellach i eraill at unrhyw ddibenion domestig ar un pwynt neu fwy ar unrhyw dir lle mae digwyddiad yn cael ei gynnal, rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a yw hyn yn gyfystyr â chyflenwad rheoliad 8. |
11 | Pa baramedrau a ddylai gael eu cynnwys wrth samplu cyflenwad rheoliad 8? | Cynghorir yr awdurdodau lleol i ddefnyddio paramedrau rheoliad 10 fel set sylfaenol o baramedrau, er nad yw hyn yn orfodol. Y gofyniad rheoleiddiol yw y dylai’r paramedrau prawf gael eu llywio gan yr asesiad risg. Yn yr un modd, dylai amlder y profion gael ei bennu gan yr asesiad risg. |
12 | Sut mae awdurdod lleol yn canfod pa gyflenwadau rheoliad 8 oedd yn bodoli cyn 31 Gorffennaf 2002? | Holwch y cwmni dŵr perthnasol ynghylch unrhyw gytundeb cyfreithiol a wnaed cyn 2002. P’un a oes un yn bodoli ai peidio, rhaid asesu risg y cyflenwad a’i fonitro o hyd fel cyflenwad rheoliad 8. |
13 | Sut mae hyn yn effeithio ar y Gorchymyn Ailwerthu Dŵr (a gyhoeddwyd o dan adran 150 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991)? | Mae’r Gorchymyn Ailwerthu Dŵr yn diogelu cwsmeriaid domestig rhag taliadau gormodol os nhw yw’r defnyddwyr terfynol ar ddŵr sy’n cael ei ailwerthu. Mae ailwerthwyr yn drydydd partïon (megis landlordiaid), sy’n codi tâl ar eu tenantiaid am wasanaethau dŵr a charthffosiaeth y maen nhw’n eu cael gan gwmni dŵr. Pan fo’r dŵr yn cael ei ddosbarthu drwy rwydwaith dosbarthu preifat, bydd y rhain hefyd yn gyflenwadau rheoliad 8. Dylid cyfeirio ymholiadau am y Gorchymyn Ailwerthu Dŵr at Ofwat. |
14 | Oes disgwyl i’r awdurdodau lleol wirio bod cyflenwyr yn gwmnïau dŵr trwyddedig? | Nac oes. |
15 | Cyflenwadau i ba fath o fangre a allai ddod o fewn rhychwant rheoliad 8? | Mae’n ofynnol i’r awdurdodau lleol benderfynu pa amgylchiadau sy’n gymwys a pha rai nad ydyn nhw’n gymwys, gan ddefnyddio’r canllawiau a ddarperir. Mae trefniadau cyflenwi yn debygol o fod yn wahanol o’r naill safle i’r llall. Er hynny, mae safleoedd lle gallai mangreoedd gael eu gwasanaethu gan gyflenwadau rheoliad 8 yn cynnwys y canlynol, ond nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr. – Parciau carafanau. – Safleoedd cartrefi symudol. – Safleoedd gwersylla. – Meysydd awyr. – Canolfannau siopa. |
16 | Oes cwrs hyfforddi i esbonio’r dehongliad diwygiedig ar gyflenwadau rheoliad 8? | Mae’r Arolygiaeth yn bwriadu cynnal sesiwn gwybodaeth ar reoliad 8 drwy gyfrwng Microsoft Teams pan fydd yr adnoddau’n caniatáu. Rhaid i’r Arolygiaeth beidio â gwneud penderfyniadau ynghylch a yw cyflenwad penodol yn gyfystyr â chyflenwad rheoliad 8 ai peidio. |
17 | Mae gen i gyflenwad rheoliad 8. Beth dylwn i ei wneud? | Cysylltwch â’ch awdurdod lleol. |