Nodyn gwybodaeth ar Reoliad 10 (Cymru)
Copi y gellir ei argraffu: Reg-10_Welsh.pdf (dwi.gov.uk).
Mae Rheoliad 10 yn gymwys i gyflenwadau dŵr preifat a ddefnyddir at ddibenion domestig sy’n gwasanaethu anheddau unigol yn unig, lle:
- NAD yw’r annedd unigol yn cael ei gosod ar rent fel rhan o gytundeb tenantiaeth nac fel llety gwyliau.
- na ddefnyddir y dŵr fel rhan o weithgaredd masnachol na chyhoeddus
Mae cyflenwadau Rheoliad 10 yn cynnwys:
- Cyflenwadau i anheddau unigol a ddarperir fel rhan o swydd, pan fydd gan ddeiliaid yr eiddo hawliau meddiannu a chynnal a chadw arbennig sy’n debyg i berchenogaeth, e.e. bwthyn clwm, tenantiaeth/hawliau meddiannu gydol oes (e.e. tai gweision).
- Tenantiaeth amaethyddol lle nad darparu annedd unigol ar gyfer llety yw prif ddiben y denantiaeth, ond lle mae’r hawl i breswylio yn yr annedd ddomestig unigol, fel arfer, yn un hirdymor â rhwymedigaethau cynnal a chadw sy’n debyg i berchenogaeth. Anheddau unigol a ddefnyddir fel cartrefi maeth – yn yr achosion hyn darperir iawndal yn hytrach na thaliad (darparu cartref yn hytrach na gwasanaeth). Nid yw dŵr a gyflenwir i’r annedd unigol at ddibenion domestig yn rhan o weithgaredd masnachol gan fod maethu yn ymwneud yn bennaf â darparu cartref.
Cyflenwadau i anheddau unigol lle y gofelir am blant
Fel arfer, mae cyflenwadau i anheddau unigol lle mae busnes gofalu am blant yn gweithredu yn cael eu hystyried yn gyflenwadau Rheoliad 9, gan fod y dŵr yn cael ei ddefnyddio fel rhan o weithgaredd masnachol/cyhoeddus. Pan gynigir gwasanaeth gofalu am blant am ddim, neu fel trefniant teuluol, nid yw Rheoliad 10 yn gymwys.
Monitro ac asesu risg
Ar gyfer cyflenwadau Rheoliad 10 nid yw’n ofynnol i awdurdod lleol wneud gwaith monitro rheolaidd a/na chynnal asesiad risg mor aml ag a nodir yn y rheoliadau, ond gall awdurdod lleol wneud gwaith monitro yn unol â rheoliad 11(1) os bydd yn dymuno gwneud hynny. Fodd bynnag, gall yr awdurdod lleol (neu gorff y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn gymwys) wneud gwaith samplu a dadansoddi a/neu gynnal asesiad risg pan fydd perchennog neu ddeiliad yr annedd yn gofyn iddo wneud hynny. Gall awdurdodau lleol godi ffi ar y person(au) perthnasol am y gweithgareddau hyn, ond ni ddylai’r ffi hon fod yn uwch na’r uchafswm rheoleiddiol (Rheoliad 23) yn unol ag Atodlen 6 i Reoliadau Cyflenwadau Dŵr (Cymru) 2017 er mwyn talu eu costau.
Fersiwn 1 o Reoliadau 2017 – Ionawr 2018