Nodyn gwybodaeth ar Reoliad 11 (Cymru)
Copi y gellir ei argraffu: Reg-11_Welsh.pdf (dwi.gov.uk).
Mae Rheoliad 11 yn gymwys i gyflenwadau preifat y bwriedir i’r dŵr gael ei yfed gan bobl nad ydynt o fewn cwmpas Rheoliadau 8, 9 na 10. Mae hyn yn cynnwys:
- Cyflenwadau i safleoedd a osodir ar rent i denantiaid fel annedd hirdymor, os bwriedir i’r dŵr gael ei yfed gan bobl, ac os defnyddir mwy na 10m3 y dydd at y dibenion hynny.
- Mae cyflenwadau sy’n cyflenwi mwy nag un safle (e.e. bythynnod neu weithdai cyfagos sy’n eiddo preifat) o un ffynhonnell drwy bibell gyflenwi gyffredin (h.y. cyflenwad a rennir), os yw’r eiddo a wasanaethir, gyda’i gilydd,yn defnyddio mwy na 10m3 y dydd.
Os defnyddir 10m3 neu fwy o ddŵr y dydd, p’un a yw’r cyflenwad yn cael ei ddefnyddio fel rhan o dentantiaeth ddomestig ai peidio, mae Rheoliad 9 yn gymwys. Os yw’r cyflenwad yn cyflenwi annedd unigol nad yw’n cael ei gosod ar rent ar gyfer llety a/neu nad yw’n cael ei defnyddio fel rhan o weithgaredd masnachol na chyhoeddus, mae Rheoliad 10 yn gymwys. Mae cyflenwadau i lety tenantiaeth fyrdymor, megis llety gwely a brecwast neu lety gwyliau a osodir, p’un a ydynt yn anheddau unigol ai peidio, o fewn cwmpas Rheoliad 9.
Asesu risg
Mae Rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal asesiad risg ar gyfer pob cyflenwad dŵr preifat yn eu hardal lle y bwriedir i’r dŵr gael ei yfed gan bobl. Mae’n rhaid adolygu’r rhain a’u diweddaru bob 5 mlynedd. Yr eithriad yw lle mae cyflenwad ond yn gwasanaethu annedd unigol nas defnyddir fel rhan o weithgaredd masnachol na chyhoeddus neu denantiaeth ddomestig (oni ofynnir i’r awdurdod lleol gynnal asesiad risg). Felly, mae Rheoliad 6 yn gymwys i bob cyflenwad Rheoliad 11, gan gynnwys y cyflenwadau hynny i anheddau unigol lle y defnyddir y dŵr fel rhan o denantiaeth ddomestig.
Monitro
Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol fonitro cyflenwadau rheoliad 11 o leiaf bob pum mlynedd ac yn amlach os bydd yr asesiad risg yn dangos bod angen gwneud hyn, ar gyfer y paramedrau canlynol:
• Dargludedd;
• Enterococci;
• Escherichia coli (E.coli);
• Ïon Hydrogen (gwerth pH);
• Tyrfedd
• Unrhyw baramedr yn rhan 1 neu 2 o Atodlen 1 y nodir yn yr asesiad risg bod risg y gallai fethu â chydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd yn y Rhannau hynny o’r Atodlen honno.
• Unrhyw beth arall a nodir yn yr asesiad risg y gallai beri perygl posibl i iechyd dynol.
Fersiwn 1 o Reoliadau 2017 – Ionawr 2018