Guidance documents

Nodyn gwybodaeth ar Reoliad 15 (Cymru)

Copi y gellir ei argraffu: Reg-15_Welsh.pdf (dwi.gov.uk).

Y gofyniad i gynnal asesiad risg a monitro cyflenwad newydd neu gyflenwad presennol wedi’i adfer

Cyn gynted ag y daw awdurdod lleol yn ymwybodol, drwy unrhyw fodd, o gyflenwad dŵr preifat newydd (p’un a yw’n gyflenwad rheoliad 8, 9, 10 neu 11) yn ei ardal, mae’n rhaid iddo gysylltu â’r person perthnasol sy’n gofyn am y cyflenwad newydd neu sy’n gofyn am i gyflenwad presennol gael ei adfer er mwyn penderfynu p’un a fwriedir i’r cyflenwad gael ei ddefnyddio i’w yfed gan bobl. Os felly, dylai’r awdurdod lleol ddiweddaru ei gofnodion er mwyn cynnwys manylion y cyflenwad. Ar ôl hynny, mae gofynion Rheoliad 6-14 a 16-19 yn gymwys, h.y. ar gyfer pob cyflenwad ac eithrio cyflenwad i annedd unigol nas darperir fel rhan o weithgaredd masnachol na chyhoeddus nac fel rhan o denantiaeth ddomestig (Rheoliad 11). Mae’n rhaid iddo ei hysbysu mewn modd amserol na ellir defnyddio’r cyflenwad nes i’r awdurdod lleol fod wedi cwblhau asesiad risg o dan Reoliad 6 a gwaith monitro yn unol â Rheoliad 8, 9 neu 11 fel y bo’n briodol

Dylid hysbysu’r person sy’n comisiynu’r cyflenwad y bydd angen i’r risgiau posibl i iechyd pobl a nodwyd gan yr asesiad risg a/neu’r gwaith monitro hwnnw gael eu lliniaru drwy gymryd camau adfer priodol cyn y gellir defnyddio’r cyflenwad. Mae’n rhaid cyflwyno Hysbysiad o dan Reoliad 20 sy’n cadarnhau’r cyfyngiad ar y defnydd o’r cyflenwad ac unrhyw gamau adfer perthnasol sydd angen eu cymryd er mwyn lliniaru’r risg. Os nad yw’r cyflenwad yn iachus nac yn ddigonol, neu os nad yw’n debygol o fod yn iachus nac yn ddigonol, mae’n rhaid cyflwyno Hysbysiad o dan Adran 80 i’r person perthnasol sy’n comisiynu’r cyflenwad ar ôl i’r cyflenwad ddechrau cael ei ddefnyddio.

Mae’n rhaid cymryd y camau uchod hefyd pryd bynnag y daw awdurdod lleol yn ymwybodol, drwy unrhyw fodd, fod cyflenwad presennol a arferai gael ei ddefnyddio at ddibenion annomestig yn unig (e.e. systemau dyfrhau, garddwriaeth, dyfrio gerddi, golchi cerbydau, lles da byw ac ati) yn cael ei ddefnyddio, neu’n debygol o gael ei ddefnyddio yn y dyfodol agos at ddibenion domestig (e.e. yfed, coginio, paratoi bwyd, cynhyrchu bwyd, ymolchi neu olchi dillad). Mae’n rhaid cynnal asesiad risg a dylai’r aseswr ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o adnodd asesu risg yr Arolygiaeth Dŵr Yfed yn https://dwi.gov.uk/ ac mae’n rhaid cyflawni rhaglen fonitro yn unol â’r math o gyflenwad.

Mae a wnelo’r amgylchiadau eraill sy’n gofyn am weithredu gan yr awdurdod lleol o dan Reoliad 15 ag adfer cyflenwad a adawyd neu nas defnyddir mwyach. Er mwyn cydymffurfio â’r Rheoliad hwn, dylai awdurdodau lleol hysbysu personau perthnasol pob cyflenwad yn eu cofnodion fod yn rhaid iddynt hysbysu’r awdurdod lleol os rhoddir y gorau i ddefnyddio’r cyflenwad at ddibenion domestig. Ar ôl cael hysbysiad o’r fath, neu os rhoddir gwybod iddo drwy unrhyw fodd arall, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r personau perthnasol, os na chaiff y cyflenwad ei ddefnyddio am gyfnod o 12 mis neu fwy, na ellir ei ddefnyddio eto at ddibenion domestig nes i’r awdurdod lleol benderfynu, ar sail asesiad risg wedi’i ddiweddaru a gwaith monitro, nad yw’r cyflenwad yn berygl posibl i iechyd pobl.

Dylai fod gweithdrefnau ar waith i staff awdurdodau lleol sy’n ymdrin â cheisiadau cynllunio (ac unrhyw un sy’n gweithio i awdurdodau cynllunio eraill e.e. Parciau Cenedlaethol) nodi safleoedd a wasanaethir gan gyflenwadau dŵr preifat. Diben y gweithdrefnau hyn yw sicrhau na chaniateir unrhyw gais cynllunio ar gyfer safle a fydd yn cael cyflenwad dŵr at ddibenion domestig o gyflenwad preifat newydd neu wedi’i adfer cyn i staff perthnasol yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am gyflenwadau dŵr preifat gynnal asesiad risg o’r cyflenwad hwnnw a’i fonitro yn unol â’r rheoliadau ynglŷn â chyflenwadau preifat. Ni ddylai’r cyflenwad beri risg bosibl i iechyd pobl a dylid dogfennu’r holl fanylion angenrheidiol yng nghofnod yr awdurdod lleol o gyflenwadau preifat. Gall awdurdodau lleol fanteisio ar y cyfle, ar yr adeg hon, i sicrhau bod yr holl bersonau perthnasol (fel y’u diffinnir yn Adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991) wedi llofnodi cytundebau cyfreithiol-rwymol priodol. Dylai’r dogfennau hyn nodi cyfrifoldebau pob person perthnasol o ran cynnal a chadw’r cyflenwad a’i reoli, hawliau mynediad, dosrannu costau a thaliadau (gan gynnwys y rhai am waith samplu ac asesu risg), cynlluniau argyfwng gan gynnwys cyflenwadau amgen ac ati.

Cyflenwadau newydd i Anheddau unigol

Yn achos pob cyflenwad i anheddau unigol, o dan Reoliad 10 caiff awdurdod lleol fonitro’r cyflenwad fel rhan o’r rheoliad hwn ac mae’n rhaid iddo ei fonitro os bydd y perchennog neu’r deiliad yn gofyn iddo wneud hynny. Mae Rheoliad 6(3) hefyd yn ei gwneud yn ofynnol mai dim ond os bydd perchennog neu ddeiliad yr annedd honno yn gofyn iddo wneud hynny y dylai awdurdod lleol gynnal asesiad risg.

Fodd bynnag, mae rheoliad 15(2) yn nodi “A private water supply must not be brought into use or used until the local authority is satisfied that the supply does not constitute a potential risk to human health.” Felly, os daw awdurdod lleol yn ymwybodol o gyflenwad newydd i gyflenwad Rheoliad 10, dylai gysylltu â’r personau perthnasol er mwyn gwneud rhai ymholiadau rhagarweiniol i nodi p’un a yw’r cyflenwad newydd yn debygol o beri risg o ddŵr afiach neu risg bosibl i iechyd pobl ai peidio. Os bydd yn amau bod y cyflenwad yn debygol o beri risg o’r fath, mae Rheoliad 18(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnal ymchwiliad er mwyn canfod yr achos a gweithredu’n unol â pharagraffau (3) a (4) [o’r rheoliad hwnnw].

Terfynau amser ar gyfer gweithredu o dan Reoliad 15

Gan na ellir defnyddio cyflenwadau newydd nes i’r awdurdod lleol fodloni ei hun, drwy gynnal asesiad risg a gwneud gwaith monitro, nad yw’r cyflenwad yn peryglu iechyd, mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau y caiff y gweithgareddau hyn eu cynnal yn brydlon. Nid yw’r Rheoliad yn pennu unrhyw derfyn amser ar gyfer cwblhau’r gwaith asesu a monitro er ei fod yn nodi y dylid ei gwblhau cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Felly, dylai awdurdodau lleol fod yn ymwybodol o’r angen i bennu a chyhoeddi targed sy’n rhoi gwybod i berchenogion a rheolwyr cyflenwadau erbyn pryd mae’r gwaith yn debygol o gael ei gwblhau. Dylid nodi’n glir, cyn i’r person(au) gomisiynu’r cyflenwad newydd neu’r cyflenwad wedi’i adfer, ei bod yn bosibl y bydd angen iddo (iddynt) gymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion a nodwyd gan yr awdurdod lleol cyn y gellir defnyddio’r cyflenwad.

Os bydd y person perthnasol yn dewis dechrau defnyddio cyflenwad newydd cyn i’r awdurdod lleol fodloni ei hun nad oes unrhyw berygl posibl i iechyd pobl, bydd yn rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno Hysbysiad o dan Reoliad 20 i gyfyngu ar y defnydd o’r cyflenwad nes i’r awdurdod lleol fodloni ei hun bod mesurau lliniaru priodol, fel y’u nodir yn yr Hysbysiad, ar waith, gan gyfeirio at y rheswm yn yr Hysbysiad fel methiant i gydymffurfio â Rheoliad 15(2).

Fersiwn 1 o Reoliadau Cymru – Ionawr 2018