Guidance documents

Nodyn gwybodaeth ar Reoliad 19 (Cymru)

Copi y gellir ei argraffu: Reg-19_Welsh.pdf (dwi.gov.uk).

Awdurdodi safonau gwahanol

Mae Rheoliad 19 yn darparu i unrhyw berson perthnasol (perchennog, defnyddiwr neu berson arall sy’n gyfrifol am gyflenwad dŵr) wneud cais i’r awdurdod lleol am wyriad awdurdodedig (a elwir yn rhanddirymiad yn y Gyfarwyddeb) – hynny yw cyflenwi dŵr i safon is dros dro tra bod camau adfer yn cael eu cymryd fel rhan o raglen waith wedi’i hamseru y cytunwyd arni. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd (CE) wedi nodi bod darpariaeth ar gyfer rhanddirymiadau wedi’i chynnwys yn y Gyfarwyddeb er mwyn rhoi amser i aelod-wladwriaethau gymryd y camau angenrheidiol i gydymffurfio â phob un o’r safonau. Cyhoeddwyd y Gyfarwyddeb yn 1998 ac, felly, mae’r CE o’r farn ei bod yn annhebygol bellach y bydd angen rhanddirymiadau ar unrhyw aelod-wladwriaeth.

Cyhoeddodd yr Arolygiaeth ganllawiau ym mis Mehefin 2013 mewn perthynas ag Awdurdodi safonau gwahanol, sydd ar gael ar wefan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed. Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud â Rheoliad 17 (Awdurdodi) o reoliadau 2010, sef Rheoliad 19 o’r rheoliadau diwygiedig a ddisodlodd reoliadau 2010 ac a ddaeth i rym yn 2017, a gellir eu gweld drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

http://dwi.defra.gov.uk/stakeholders/guidance-and-codes-of-practice/pws-reg17.pdf

Mae’r CE wedi egluro ei safbwynt ac mae’r ddarpariaeth i wneud cais am randdirymiadau yn bodoli o hyd ac, os bydd amgylchiadau penodol yn codi megis canfod paramedr newydd, gall yr awdurdod lleol ystyried roi awdurdodiadau, a asesir ac y darperir tystiolaeth ar eu cyfer fesul achos. Dylai awdurdod lleol sy’n ystyried rhoi gwyriad awdurdodedig gysylltu â’r Arolygiaeth i gael cyngor ar yr achos penodol sy’n cael ei ystyried.

Fersiwn 1 o Reoliadau Cymru – Ionawr 2018