Nodyn gwybodaeth ar Reoliad 20 (Cymru)
Rheoliad 20 (Hysbysiadau)
Os bydd unrhyw gyflenwad dŵr preifat y bwriedir iddo gael ei yfed gan bobl yn berygl posibl i iechyd pobl, mae Rheoliad 20 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad i unrhyw ‘berson perthnasol’ fel y’i diffinnir yn rheoliad 2 (gweler y Nodyn Gwybodaeth). Y pwynt allweddol yw diogelu iechyd y cyhoedd ac felly mae gweithredu amserol yn hanfodol.
Caniateir i hysbysiad gael ei gyflwyno i un person perthnasol, sawl person perthnasol neu bob un o’r personau perthnasol, gan ddibynnu ar achos y perygl posibl i iechyd a’r camau lliniaru priodol y mae angen eu cymryd. I gyflawni’r ddyletswydd hon, rhaid i’r awdurdod lleol bwyso a mesur ei asesiad risg ei hun, yr holl amgylchiadau lleol perthnasol, unrhyw gyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, cytundebau, cyfamodau neu weithredoedd lleol sy’n benodol i’r safle ac sy’n pennu cyfrifoldebau o ran agweddau penodol ar y cyflenwad neu ei reolaeth.
Er nad yw’r rheoliadau’n atal cyflwyno hysbysiad rheoliad 20 cyn ymchwilio i’r achos o dan reoliad 18, rhaid pennu camau cywiro i adfer dŵr afiachus mewn unrhyw hysbysiad a gyflwynir. Fel arfer, dim ond ar ôl ymchwilio i’r achos a’i adnabod y byddai’r camau adferol angenrheidiol i adfer a chynnal iachusrwydd y dŵr a diogelu iechyd pobl yn hysbys. Pan welir bod achos y dŵr afiachus yn y system ddosbarthu yn achos mangre ddomestig, yn sgil ymchwiliad o dan reoliad 18, dim ond pan fwriedir trefnu bod y dŵr ar gael i’r cyhoedd y dylid cyflwyno hysbysiad o dan yr amgylchiadau hyn. Rhaid cyflwyno hysbysiad hefyd os nad y system ddosbarthu o fewn mangre ddomestig yw’r achos. Ni ddylid defnyddio hysbysiadau Rheoliad 20 fel hysbysiadau cyfyngu defnydd yn unig.
Rydyn ni wedi darparu rhai awgrymiadau ar gyfer cyfyngiadau a chamau i’w hystyried ar gyfer adfer iachusrwydd yn Atodiadau 1 a 2 isod.
Dylai’r awdurdod lleol:
- Yn gyntaf, sicrhau bod y defnyddwyr yn cael gwybod ac yn cael cyngor i’w galluogi i leihau’r perygl i iechyd pobl.
- Cyflwyno hysbysiad o dan reoliad 20 i’r person(au) perthnasol[1] gan ddatgan y sail dros gyflwyno’r hysbysiad. Gall yr hysbysiad hwn ei gwneud yn ofynnol i ddefnydd y cyflenwad gael ei wahardd neu ei gyfyngu. Dylai bennu pa gam arall neu gamau eraill sy’n angenrheidiol i ddiogelu iechyd pobl ac adfer iachusrwydd y cyflenwad dŵr. Dylid nodi’r camau y mae eu hangen er mwyn cynnal iachusrwydd parhaus y cyflenwad ar ôl ei adfer. Efallai y bydd yr hysbysiad yn cynnwys amryw o gamau i’w cyflawni gan wahanol bersonau perthnasol, ond gellir disgrifio hyn ar un hysbysiad sy’n cael ei gopïo i bawb.
- Cynnal ymchwiliad (gweler y Nodyn Gwybodaeth ar Reoliad 18) i bennu’r achosion a fydd yn llywio’r gwelliannau y mae eu hangen, os nad ydynt eisoes yn hysbys, a diweddaru’r asesiad risg ar gyfer y cyflenwad.
- Os oes angen hynny, diwygio’r hysbysiad a gyflwynwyd o dan adran 20.
Os na ddarperir gwybodaeth gan berson perthnasol, caiff yr awdurdod lleol ddefnyddio’i bwerau o dan adran 85(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 i gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson gan ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu gwybodaeth am fangre ar gyflenwad.
Pan nodir risg i iechyd mewn cyflenwad i annedd ddomestig sengl, rhaid i awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 20 i’r perchennog/meddianwyr yn ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd.
Rhaid i’r hysbysiad gynnwys y canlynol:
- Enw’r cyflenwad dŵr preifat (enw a manylion eraill y cyflenwad dŵr).
- Rhif adnabod unigryw.
- Y sail dros gyflwyno’r hysbysiad (pam mae’r dŵr yn berygl posibl i iechyd pobl ac, yn achos methiannau i gydymffurfio â’r safon, y paramedr dan sylw a’i grynodiad);
- Gwaharddiad neu gyfyngiad ar ddefnyddio’r cyflenwad (cyngor, er enghraifft, i ferwi dŵr i’w yfed etc yn achos methiannau microbiolegol, peidio â defnyddio dŵr i’w yfed etc yn achos methiannau cemegol difrifol megis halogi â hydrocarbonau, peidio â defnyddio dŵr sy’n sefyll yn y pibellwaith i’w yfed etc yn achos methiannau difrifol yn y safon ar gyfer plwm).
- Camau ar gyfer y tymor hirach i adfer y cyflenwad er mwyn diogelu iechyd pobl. Dylai hyn gynnwys camau i wella’r cyflenwad er mwyn lliniaru’r risg a sicrhau bod y cyflenwad yn iachus.
- Camau cywiro y mae’n rhaid eu cymryd er mwyn:
- Diogelu iechyd pobl.
- Adfer iachusrwydd y cyflenwad dŵr.
- Cynnal iachusrwydd parhaus y cyflenwad dŵr ar ôl ei adfer.
- Caniateir i hysbysiad gael ei ddiwygio neu ei ailgyflwyno er mwyn ystyried gwybodaeth newydd (er enghraifft canlyniadau ymchwiliadau). Dylai unrhyw hysbysiad newydd bennu’r holl gamau y mae angen eu cymryd, gan gynnwys y rhai o’r hysbysiad blaenorol os ydyn nhw’n berthnasol. Dylai fod gan yr hysbysiad rif adnabod unigryw newydd a dylai gyfeirio at yr hysbysiad blaenorol. Sylwch fod
cyngor i ferwi dŵr yn briodol fel mesur byrdymor yn unig tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal. Ni ddylid barnu bod hynny’n ateb parhaol a dylai’r dyddiad cwblhau ar gyfer yr ymchwiliad ar yr hysbysiad adlewyrchu hyn.
Caiff awdurdod lleol osod amodau ar yr hysbysiad. Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw sicrhau bod holl ddefnyddwyr y cyflenwad yn ymwybodol o gynnwys yr hysbysiad a’r cyngor a geir ynddo. Gallant ddirprwyo hyn i berson perthnasol a enwebir ac y cytunir arno. Er enghraifft, ymysg camau eraill, fe allen nhw osod amod bod yr hysbysiad yn cael ei ddangos mewn man amlwg fel y gall pob defnyddiwr weld y cynnwys a’r cyngor.
Gallai’r awdurdodau lleol osod amod yn yr hysbysiad hefyd fod y person(au) perthnasol yn darparu gwybodaeth am y cyflenwad (megis unrhyw driniaeth, y rhwydwaith dosbarthu, lleoliad y ffynhonnell etc) a bod defnyddwyr y cyflenwad yn cynorthwyo’r awdurdod lleol.
Pan fo’n cyflwyno’r hysbysiad, rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r person(au) perthnasol eu bod yn cael apelio yn ei erbyn (gweler y Nodyn Gwybodaeth ar Reoliad 21). Rhaid i’r awdurdod lleol ddiddymu’r hysbysiad cyn gynted ag y bydd wedi’i fodloni bod y risg i iechyd wedi’i lliniaru’n ddigonol.
Dylai’r awdurdod lleol fonitro’r cynnydd sy’n cael ei wneud o ran cydymffurfio â’r hysbysiad. Pan nad yw’r person(au) perthnasol wedi cydymffurfio â’r hysbysiad, fe fydd neu fe fyddant wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 20(6). Dylai’r awdurdod lleol gychwyn achos cyfreithiol.
Disgrifir y cosbau am fethu â chydymffurfio â hysbysiadau yn y Nodyn Gwybodaeth ar Reoliad 22.
At hynny, pan na chymerir unrhyw gamau a bennir yn yr hysbysiad o fewn y cyfnod amser a bennir yn yr hysbysiad, caiff yr awdurdod lleol wneud y gwaith hwnnw eu hunain ac adennill eu costau wrth wneud hynny.
Bernir bod unrhyw hysbysiadau rheoliad 18 a gyflwynir o dan Reoliadau 2010 (h.y. yr hysbysiadau presennol) yn hysbysiadau rheoliad 20 o dan Reoliadau 2017. Does dim angen eu cyflwyno eto, er y dylid eu diweddaru er mwyn adlewyrchu Rheoliadau 2017 os cânt eu hailgyflwyno am resymau eraill.
Rhaid taro cydbwysedd wrth bwyso a mesur y perygl i iechyd pobl wrth wahardd neu gyfyngu defnyddio’r cyflenwad yn erbyn y perygl i iechyd pobl drwy barhau â’r cyflenwad. Mae gwahardd y cyflenwad yn golygu, ar ben bod heb gyflenwad drwy’r pibelli ar gyfer yfed, paratoi bwyd a choginio, y byddai angen darparu cyflenwad amgen mewn poteli at y dibenion hyn. Os nad oes dŵr neu gyflenwad amgen ar gyfer golchi/ymdrochi/cael cawod neu fflysio toiledau mae hyn yn dod â risgiau hylendid arwyddocaol. Mae’n debygol mai’r dewis olaf fyddai gwahardd y cyflenwad. Mae’n debycach ym mhob achos bron y bydd yr awdurdod lleol yn ystyried cyfyngu ar ddefnyddio’r cyflenwad.
At hynny, pan na chymerir unrhyw gamau a bennir yn yr hysbysiad o fewn y cyfnod amser a bennir yn yr hysbysiad, caiff yr awdurdod lleol wneud y gwaith hwnnw eu hunain ac adennill eu costau wrth wneud hynny.
Atodiad 1 Enghreifftiau o gyfyngiadau yw:
- berwi pob dŵr y bwriedir ei yfed neu ei ddefnyddio i lanhau dannedd, paratoi bwyd a choginio (pan fydd yna risg ficrobiolegol neu pan fydd sampl wedi methu);
- rhedeg y dŵr sy’n sefyll yn y pibellwaith i ffwrdd fel dŵr gwastraff cyn tynnu dŵr i’w yfed, i baratoi bwyd neu i goginio (pan fydd yna risg o lefelau uwch o baramedrau plwm, copr, nicel neu antimoni) nes i bibellwaith neu ffitiadau newydd gael eu gosod yn y fangre yn lle’r hen rai a fu’n cyfrannu at y methiant;
- peidio â defnyddio dŵr i’w yfed, i lanhau dannedd, paratoi bwyd neu goginio (pan geir methiant arwyddocaol o ran paramedr cemegol sy’n peri risg uniongyrchol i iechyd pobl). Yn yr achos hwn bydd ar y defnyddwyr angen cyflenwad amgen mewn tanceri, poteli neu gynwysyddion eraill;
- peidio â defnyddio dŵr ar gyfer ymdrochi a chael cawod pan geir methiant arwyddocaol o ran paramedr cemegol sy’n berygl posibl i iechyd pobl, os caiff ei fewnanadlu neu ei amsugno drwy’r croen neu os bydd yn treiddio’r croen drwy doriad neu anafiadau agored. Yn yr achos hwn, dylid cynghori’r defnyddwyr i ddefnyddio cyflenwad amgen. Gallai’r cyflenwad amgen a ddarperir gan y person perthnasol ddod o danceri, poteli neu gynwysyddion eraill.
Atodiad 2 Cyngor y gellid ei gynnig i ddefnyddwyr:
- yn achos methiant microbiolegol, tynnu mewnosodiadau o’r tap a glanhau a diheintio’r tap yn drylwyr neu roi tap newydd yn lle’r hen un neu, os yw’r tap wedi’i gysylltu â thanc, glanhau, diheintio a gorchuddio’r tanc yn ddigonol ac, wrth aros i’r camau hynny gael eu cymryd, cynghori’r defnyddwyr i ferwi dŵr sydd i’w yfed a’i ddefnyddio i baratoi bwyd a choginio os bydd yr awdurdodau lleol o’r farn bod y methiant yn berygl posibl i iechyd pobl. Dylid ystyried unrhyw gyngor perthnasol gan y bwrdd iechyd lleol ar yr adeg hon;
- yn achos methiannau sy’n ymwneud â phlwm, gosod pibellwaith copr neu blastig newydd yn lle’r pibellwaith yr effeithir arno a fflysio dŵr sy’n sefyll yn y pibellwaith i ffwrdd fel dŵr gwastraff fel mesur dros dro cyn tynnu dŵr i’w yfed, i baratoi bwyd neu i goginio; neu
- symud dyfais sydd i fyny’r llif o dap y gegin (er enghraifft dyfais meddalu dŵr) i rywle sydd i lawr y llif o dap y gegin.
Pan fo cyflenwad dŵr preifat yn gwasanaethu mangreoedd yn ardal mwy nag un awdurdod lleol, mae Adran 80(4) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn ei gwneud yn ofynnol:
- i’r awdurdodau lleol weithredu ar y cyd i gyflwyno’r hysbysiad gwella; neu
- i un awdurdod lleol gyflwyno’r hysbysiad gwella gyda chydsyniad yr awdurdodau lleol eraill.
[1] Ar yr amod na fydd cyflwyno’r hysbysiad yn achosi mwy o berygl posibl.