Nodyn gwybodaeth ar Reoliad 3 (Cymru)
Cwmpas (Rheoliad 3)
Rheoliad 3(Rhychwant)
Mae Rheoliad 3 o Reoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017 (y cyfeirir atynt wedi hyn fel y Rheoliadau) yn pennu’r meini prawf sy’n penderfynu sut mae’r Rheoliadau’n gymwys i gyflenwadau dŵr preifat.
Diffinnir cyflenwad preifat fel ‘cyflenwad dŵr ac eithrio cyflenwad a ddarperir yn uniongyrchol gan ymgymerwr dŵr’.[1] Mae’r Rheoliadau’n pennu pedwar categori o gyflenwad preifat, sef 8, 9 10 ac 11. Rydym wedi llunio nodyn unigol ar gyfer pob un y gallwch eu cael ar ein gwefan.
Ond, i grynhoi:
- Mae cyflenwadau rheoliad 8 yn deillio o’r ‘prif gyflenwadau’ cyhoeddus (ymgymerwyr neu gyflenwyr trwyddedig) sy’n cael eu dosbarthu ymhellach gan gwsmeriaid cwmnïau dŵr i ddefnyddwyr ar fangreoedd mewn perchnogaeth ar wahân.
- Mae cyflenwadau rheoliad 9 yn gyflenwadau mawr (>10m3 y dydd) a chyflenwadau i fangreoedd a ddefnyddir fel rhan o weithgaredd masnachol neu gyhoeddus, ni waeth beth fo’r swm a ddefnyddir. Mae hyn yn cynnwys, mewn rhai achosion, gyflenwadau i unrhyw eiddo sydd â thenantiaid.
- Cyflenwadau rheoliad 10 yw cyflenwadau i un annedd yn unig, sy’n defnyddio llai na 10m3 y dydd.
- Cyflenwadau rheoliad 11 yw’r holl gyflenwadau dŵr preifat eraill gan gynnwys cyflenwadau bach a rennir (<10m3 y dydd) a chyflenwadau lle defnyddir y dŵr fel rhan o denantiaeth ddomestig (gan gynnwys anheddau sengl lle defnyddir y dŵr yn y swyddogaeth hon).
DIM OND pan fwriedir i’r dŵr gael ei yfed gan bobl y mae’r Rheoliadau’n gymwys i gyflenwadau dŵr preifat. Mae rheoliad 3 yn disgrifio yfed gan bobl fel hyn:
dŵr, naill ai yn ei gyflwr gwreiddiol neu ar ôl ei drin, a fwriedir ar gyfer yfed, coginio, paratoi bwyd neu ddibenion domestig eraill,* beth bynnag fo’i darddiad a pha un ai y’i cyflenwir o rwydwaith dosbarthu, neu o dancer neu mewn poteli neu gynwysyddion.
*Diffinnir y term ‘domestic purposes’ yn adran 218 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, fel yfed, golchi, coginio, gwres canolog a dibenion glanweithdra. Mae ‘dibenion glanweithdra’ yn cynnwys ymolchi/baddo/cael cawod, golchi dillad a fflysio toiledau.[2] Sylwch nad yw cyflenwad dŵr preifat a ddefnyddir at ddibenion busnes golchdy yn unig yn dod o fewn rhychwant y Rheoliadau, a hynny am nad yw golchi dillad yn ddiben domestig o dan yr amgylchiadau hyn, yn unol ag adran 218(3) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.
Ni chaiff unrhyw ddŵr a ddefnyddir wrth gynhyrchu, gweithgynhyrchu, prosesu a chadw bwyd neu wrth farchnata cynhyrchion neu sylweddau a fwriedir i’w bwyta gan bobl effeithio ar iachusrwydd y bwyd ar ei ffurf orffenedig. DS yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw’r awdurdod cymwys mewn achosion o’r fath.
Os defnyddir dŵr at unrhyw beth heblaw cynhyrchu bwyd sylfaenol, yna mae’n rhaid iddo fodloni’r Rheoliadau. Ceir enghreifftiau o ble mae’r Rheoliadau’n gymwys isod (mae’r rhestr hon yn un ddarluniadol ac nid yw’n gynhwysfawr):
- Golchi a bagio cnydau/bwydydd (yn enwedig golchi eitemau parod i’w bwyta fel cnydau salad).
- Ffrwythau a llysiau y gellir eu bwyta’n amrwd.
- Golchi ffrwythau a llysiau a fwriedir ar gyfer pilio a sleisio.
- Ymgorffori mewn bwyd fel cynhwysyn (gan gynnwys diodydd neu ddŵr a ddefnyddir mewn bragdy – gweler isod).
- Glanhau offer, teclynnau, waliau, llawr, nenfydau ac arwynebau gwaith at gynhyrchu bwyd.
- Cynhyrchu rhew.
- Golchi dwylo trinwyr bwyd.
- Dibenion glanhau (arwynebau sydd mewn cysylltiad â bwyd, offer, cynwysyddion storio, teclynnau, dwylo).
- Golchi wyau[3] os yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn barnu bod y dŵr yn effeithio ar y cynnyrch terfynol.
Dylai’r awdurdodau lleol ymgynghori â’r Asiantaeth Safonau Bwyd os oes angen cyngor pellach ar ansawdd y dŵr a ddefnyddir ar gyfer unrhyw waith cynhyrchu bwyd.
Cyflenwadau cymysg – pan gymysgir cyflenwadau cyhoeddus a phreifat cyn eu defnyddio.
Dylai’r awdurdod lleol a’r cwmni dŵr gydweithio i adnabod yr achos sylfaenol a hwyluso’r camau unioni priodol, o dan y setiau priodol o reoliadau. Gall yr awdurdod lleol ddefnyddio’i bwerau i orfodi person(au) perthnasol i gymryd camau adfer, a gall y cwmni dŵr hefyd fod yn gyfrifol am gyflawni rhai camau unioni, os yw’r pwynt rheoli
wedi’i leoli cyn i’r cyflenwad cyhoeddus gael ei gymysgu â’r cyflenwad preifat. Y person(au) perthnasol fydd yn gorfod unioni pethau os torrir y Rheoliadau Gosodiadau Dŵr ond y cwmni dŵr a fyddai’n gorfodi’r rheoliadau.
Parlyrau godro
Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd bwerau a chyfrifoldebau dros barlyrau godro a ffermydd llaeth o dan y gyfraith bwyd bresennol. Nid yw cyflenwadau preifat sy’n cael eu defnyddio at ddibenion golchi i lawr yn unig o fewn rhychwant y Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat. Er hynny, mae mangreoedd parlyrau godro yn dod o dan y Rheoliadau pan fo cyflenwad hefyd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion domestig ar y safle. Yn yr achosion hyn, rhaid cymhwyso rheoliad 8, 9 neu 10, fel y bo’n briodol (gweler uchod).
Distyllfeydd
Pan ddefnyddir dŵr o gyflenwadau dŵr preifat wrth weithgynhyrchu cynhyrchion sy’n defnyddio proses ddistyllu (er enghraifft, chwisgi, jin a gwirodydd eraill), dim ond pan ychwanegir y dŵr ar ôl y rhan ddistyllu o’r broses y mae’r Rheoliadau’n gymwys.
Paratoi brag a bragu
Mae’r broses o wneud ‘brag’ yn gofyn bod dŵr yn cael ei amsugno gan haidd gan ei wneud yn rhan gyfansoddol o’r cynnyrch terfynol, er enghraifft, cwrw a finegr. Felly, mae dŵr sy’n deillio o gyflenwadau dŵr preifat i wneud brag drwy’r prosesau hyn yn dod o fewn rhychwant rheoliad 3(1)(b).
Casglu dŵr glaw a systemau dŵr llwyd
Mae’r holl gyflenwadau sy’n deillio o ddŵr glaw a dŵr wedi’i ailgylchu (llwyd) yn dod o fewn rhychwant y Rheoliadau, pan gyflenwir y dŵr at ddibenion domestig, at gynhyrchu bwyd a phan fwriedir y dŵr i’w yfed gan bobl.
Ffynhonnau dŵr a chyflenwadau eraill sy’n hygyrch i’r cyhoedd
Pan gynigir cyflenwad preifat i’w yfed gan bobl i’r cyhoedd/twristiaid fel rhan o atyniad treftadaeth (er enghraifft ffynhonnau ac ogofannau hynafol), mae rheoliad 9 yn gymwys. Pan nad yw wedi’i fwriadu i’w yfed gan bobl, rhaid i’r person cyfrifol ddangos arwyddion rhybuddio’n glir i atal hyn.
Sbâu a Phyllau
Os yw’r dŵr yn y math hwn o gyfleusterau yn cael ei ddarparu hefyd at ddibenion domestig neu’n cael ei ddefnyddio mewn cynhyrchion bwyd dynol, bydd y Rheoliadau’n gymwys. Dylai lleoliadau samplu at ddibenion monitro fod wrth bwynt addas lle mae’r dŵr yn cael ei dynnu i’w yfed gan bobl.
Nid yw cyflenwadau dŵr preifat a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau hamdden yn unig, er enghraifft, pyllau nofio, sbâu a pharciau dŵr o fewn rhychwant y Rheoliadau. Yn yr un modd, nid yw’r rhai a ddefnyddir at ddibenion crefyddol/gwella yn dod o dan y rheoliadau.
Cyflenwadau amgen
Mewn argyfwng, gall fod angen cyflenwi dŵr dros dro o danceri neu mewn poteli neu gartonau, er enghraifft pan geir methiant ansawdd sy’n peri perygl posibl i iechyd pobl.
Rhaid i’r dŵr yn y tanceri hefyd fodloni gofynion y Rheoliadau. Os yw dŵr mewn poteli neu gynwysyddion yn cael ei gyflenwi yn hytrach na chyflenwad preifat (am nad oes digon ohono) mae’r rheoliadau’n gymwys.
Digwyddiadau dros dro
Pan fo digwyddiadau dros dro (gwyliau, ffeiriau lleol etc) yn cael eu cyflenwi gan ffynonellau fel tyllau turio a/neu ffynhonnau at ddibenion domestig, mae’r Rheoliadau Cyflenwi Dŵr Preifat yn gymwys. Nid yw dŵr sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion domestig mewn digwyddiad dros dro sy’n deillio o gyflenwad dŵr cyhoeddus – naill ai’n uniongyrchol drwy bibellau neu drwy danceri – yn dod o fewn rhychwant y Rheoliadau oni bai ei fod yn gyflenwad rheoliad 8.
Cyflenwadau i fangreoedd sydd â thenantiaid
Mae cyflenwadau dŵr preifat i bob mangre, sy’n cael ei rhentu fel rhan o gytundeb tenantiaeth ddomestig, lle mae’r dŵr a gyflenwir wedi’i fwriadu i’w yfed gan bobl neu at ddibenion glanweithdra (er enghraifft fflysio toiledau), yn dod o fewn rhychwant y Rheoliadau. Rhaid monitro’r cyflenwadau hyn yn unol â rheoliadau 7 ac 11. Ceir rhagor o wybodaeth am asesiad risg y cyflenwadau hyn yn y Nodyn Gwybodaeth ar gyfer rheoliad 6. Mae cyflenwadau rheoliad 11 yn cynnwys darpariaeth gwely a brecwast.
Esemptiadau (Rheoliad 3)
Mae’r dyfroedd a ganlyn yn esempt o’r Rheoliadau:
a) dŵr a reolir gan Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2007 neu
b) dŵr sy’n gynnyrch meddyginiaethol;[4] neu
c) dŵr a ddefnyddir dim ond i olchi cnwd ar ôl ei gynaeafu lle nad yw’n effeithio ar addasrwydd y cnwd i’w fwyta gan bobl neu unrhyw fwyd neu ddiod sy’n deillio o’r cnwd.
[1] Yn Adran 93 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (gan gynnwys cyflenwad a ddarperir er mwyn potelu dŵr).
[2] Mae’r Arolygiaeth wedi darparu adnodd asesu risg ar ei gwefan ar gyfer cyflenwadau sy’n cael eu defnyddio at ddibenion fflysio toiledau yn unig.
[3] Ni chaniateir i wyau Dosbarth A (y radd uchaf) gael eu golchi ac felly nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys. Ond, fe all y Rheoliadau fod yn gymwys pan ddefnyddir y dŵr i olchi wyau dosbarth B ac C, gan ddibynnu ar ble mae’r wyau’n cael eu golchi. Os golchir yr wyau ar y fferm/man cynhyrchu, yna nid yw golchi wyau yn dod o fewn y rheoliadau, gan na fyddai’r golchi yn newid natur yr wy yn sylweddol. Ond ni fyddai golchi yn y gwaith prosesu (ar gyfer wyau B ac C) yn broses gynhyrchu sylfaenol, a byddai’n rhaid i’r dŵr fod yn iachus ac felly fe fyddai golchi fel hyn o fewn y Rheoliadau.
[4] Dŵr sy’n gynnyrch meddyginiaethol yw dŵr a reoleiddir gan Ddeddf Meddyginiaethau 1968, p. 67.