Nodyn gwybodaeth ar Reoliad 4 (Cymru)
Rheoliad 4 (Iachusrwydd)
Dylai dŵr yfed fod yn iachus fel y’i diffinnir yn ôl y tri amod yn y rheoliad hwn.
Mae’r amod cyntaf yn ofyniad sy’n dweud na chaiff dŵr yfed gynnwys unrhyw ficro-organeb, parasit na sylwedd, ar eu pen eu hunain nac ar y cyd ag unrhyw sylwedd arall, mewn crynodiad neu â gwerth a allai beryglu iechyd pobl. Mae’r elfen ‘dal popeth’ hon yn ategu’r gofyniad bod rhaid cydymffurfio â’r safonau rhagnodedig ar gyfer ansawdd dŵr yfed a nodir yn ail amod y rheoliad hwn.
Mae’r ail amod yn cyfeirio at y crynodiadau neu’r gwerthoedd manwl gywir ar gyfer amrywiaeth eang o baramedrau cemegol, microbiolegol a ffisegol, a restrir yn rhan 1 o atodlen 1 i’r Rheoliadau, na ddylid mynd y tu hwnt iddynt. Mae’r safonau rhagnodedig hyn wedi’u nodi er mwyn sicrhau bod dŵr yfed yn dderbyniol i ddefnyddwyr o ran ei olwg, ei aroglau a’i flas.
Mae’r trydydd amod, a’r un olaf, yn cyfeirio at nitrad a nitraid. Pan geir y rhain mewn crynodiadau digon uchel, naill ai ar eu pen eu hunain neu gyda’i gilydd, gall y paramedrau hyn achosi methemoglobinemia mewn babanod hyd at 6 mis oed sy’n cael eu bwydo o’r botel ac, yn arbennig, y rhai sydd o dan dri mis oed. Er bod safonau rhagnodedig ar gyfer pob paramedr, gall nitrad a nitraid ddigwydd mewn cyflenwadau dŵr yfed gyda’i gilydd, ac felly fe ddylen nhw gael eu hystyried gyda’i gilydd gan ddefnyddio’r fformiwla nitrad nitraid. Mae’r fformiwla hon yn dweud, er mwyn i’r dŵr beidio â chreu perygl i iechyd pobl, na ddylai swm cymhareb y crynodiadau nitrad a nitraid fod yn fwy nag 1.
Os bodlonir pob un o’r tri amod hyn, yna gellir barnu bod y dŵr yfed yn ddiogel ac yn iachus.
P’un a bennir y paramedr gan y Rheoliadau ai peidio, mae yna gytundeb da yn fyd-eang ynghylch yr wyddoniaeth y tu ôl i’r broses o bennu safonau ansawdd dŵr yfed sy’n seiliedig ar ffactorau iechyd a ffactorau eraill, sy’n cynnwys lwfans diogelwch eang.
Mae’r dystiolaeth arbenigol wedi’i chofnodi gan Sefydliad Iechyd y Byd yn ei ganllawiau ar ansawdd dŵr yfed sydd, ynghyd â materion buddiant cenedlaethol, yn bwydo rheoliadau’r Deyrnas Unedig.
Ceir rhagor o wybodaeth am nitrad mewn cyflenwadau dŵr yfed preifat yma.