Nodyn gwybodaeth ar Reoliad 5
Rheoliad 5 (Defnyddio cynhyrchion neu sylweddau mewn cyflenwadau dŵr preifat a threfniadau diheintio)
Mae Rheoliad 5 yn pennu’r defnydd o gynhyrchion neu sylweddau na fydd yn cael effaith niweidiol ar ddiogelwch neu ansawdd dŵr yfed. Mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio mewn systemau cyflenwi dŵr preifat, er enghraifft, pympiau tyllau turio, siambrau casglu, tanciau storio, pibellau trosglwyddo, cemegau triniaeth neu gyfryngau hidlo. Hefyd dyfeisiau pwynt defnydd a ffitiadau dŵr, er enghraifft mesuryddion, pympiau, falfiau a thapiau.
Mae unrhyw ddefnydd newydd ar gynnyrch neu sylwedd yn dod o dan reoliad 5(1), er enghraifft nid yw llawer o’r siambrau ffynhonnau a’r cronfeydd presennol wedi’u hadeiladu o ddeunydd a fyddai’n cydymffurfio â’r rheoliad hwn nawr, ond ni ddisgwylir bod angen i’r rhain gael eu disodli oni bai bod yna dystiolaeth i gadarnhau eu bod yn gwneud y dŵr yn afiachus.
Er hynny, yn ystod gwaith adfer, er enghraifft os oes angen pibellwaith newydd ar danc, cronfa neu siambr ffynnon neu atgyweiriad i grac yn y waliau, erbyn hyn mae’n rhaid i unrhyw ddeunydd a ddefnyddir gydymffurfio â’r rheoliad hwn. Mae’r mathau hyn o gynhyrchion yn cael eu defnyddio’n aml gan ymgymerwyr dŵr ac ar gael yn eang. Os oes angen, gallwch ofyn am ragor o gyngor gan eich cwmni dŵr lleol, y Gwasanaeth Cynghori ar Reoliadau Dŵr (WRAS), neu’r Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI).
Rhaid i’r awdurdodau lleol bennu bod rhaid cydymffurfio â rheoliad 5 mewn hysbysiadau newydd y maent yn eu cyflwyno yn pennu gwaith atgyweirio neu amnewid ar unrhyw gynhyrchion/sylweddau a ddefnyddir ar gyfer gwelliannau mewn cyflenwadau dŵr preifat.
Sut mae’r awdurdodau lleol yn gwirio bod cynnyrch neu sylwedd yn cydymffurfio â Rheoliad 5(1)?
Mae cynhyrchion neu sylweddau sy’n bodloni un (neu ragor) o’r meini prawf a ganlyn yn cydymffurfio a rheoliad 5(1):
- Wedi’u rhestru yn rhestr yr Ysgrifennydd Gwladol o gynhyrchion a gymeradwywyd i’w defnyddio yn y Cyflenwad Dŵr Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig (mae’r fersiwn gyfredol ar gael ar wefan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed);
- Wedi’u rhestru yng Nghyfeiriadur Ffitiadau a Deunyddiau Dŵr y Gwasanaeth Cynghori ar Reoliadau Dŵr (WRAS) (ar gael ar wefan y WRAS: https://www.wras.co.uk/) fel rhai sy’n addas i’w defnyddio mewn systemau plymio o fewn adeiladau;
- Er mwyn cael eu cynnwys gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed ar restr o gynhyrchion a ganiateir o dan reoliad 5, bydd angen i’r cyflenwr, y gweithredwr neu’r awdurdod lleol ddarparu tystiolaeth eu bod wedi’u defnyddio mewn o leiaf dri chyflenwad preifat gwahanol yn y 12 mis blaenorol. Bydd y rhestr drosiannol hon yn cael ei chadw ar wefan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed fel rhan o’r rhestr rheoliad 5. Mewn amgylchiadau o’r fath dylid ymgynghori â’r Arolygiaeth Dŵr Yfed i gael rhagor o arweiniad ar y broses o sicrhau cymeradwyaeth a’r rhestr bresennol o gynhyrchion trosiannol.
Dylai’r awdurdodau lleol fod yn fodlon bod unrhyw gynnyrch neu sylwedd sy’n cael ei ddefnyddio mewn cyflenwad preifat wedi’i gofnodi fel rhan o asesiad risg, unrhyw ymchwiliad a/neu unrhyw waith gwella.
Pa gamau y dylai awdurdod lleol eu cymryd os bydd yn canfod y gallai cynnyrch neu sylwedd fod yn effeithio ar ansawdd neu ddiogelwch y cyflenwad dŵr?
Os oes awdurdod lleol yn amau bod cynnyrch wedi’i ddefnyddio nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 5(1), dylent ystyried a yw hyn yn creu perygl posibl i iechyd pobl. Os felly, rhaid cyflwyno hysbysiad rheoliad 18 i’r person perthnasol (gweler y Nodyn Gwybodaeth ar Reoliad 18).
Os na fernir bod y dŵr yn berygl posibl i iechyd, ond ei fod yn groes i reoliad 5, mae’n afiachus. Os felly, caniateir i hysbysiad adran 80 gael ei gyflwyno.
Paramedrau nad oes angen eu dadansoddi ond a reolir drwy ddefnyddio cynhyrchion a gymeradwywyd
Mae’r cynhyrchion isod yn cael eu defnyddio wrth drin dŵr bwrdeistrefol a byddai’n anarferol dod o hyd iddynt mewn cyflenwadau dŵr preifat nodweddiadol. Pan fo’r cynhyrchion yn y tabl isod yn cael eu defnyddio, does dim gofyniad ynglŷn â’u monitro os yw’r cynhyrchion ar y rhestr a gymeradwywyd (gweler uchod):
Paramedr | Amgylchiadau lle mae’n debygol o fod yn bresennol | Y meini prawf dros ei hepgor o waith monitro archwiliadau |
Acrylamid | Defnyddio polyacrylamidau fel cymhorthion ceulo. Defnyddio growt polyacrylamid ar gyfer leiniau tyllau turio/ffynhonnau. | Dylid defnyddio cynhyrchion a gymeradwywyd. |
Epichlorohydrin | Defnyddio polyaminau fel cymhorthion ceulo. Defnyddio epocsi-resin (er enghraifft i leinio pibellau a thanciau). Ei ddefnyddio i wneud rhai mathau o resin cyfnewid ïonau. | Dylid defnyddio cynhyrchion a gymeradwywyd. |
Finyl clorid | Ei ddefnyddio i wneud PVC. Yn trwytholchi o bibellau PVC heb eu plastigo a ddefnyddir at ddibenion dosbarthu neu mewn plymwaith domestig. | Dylid defnyddio cynhyrchion a gymeradwywyd. |
Rheoliad 5(2)
Pan fo diheintio yn rhan o’r broses o baratoi neu ddosbarthu dŵr, mae rheoliad 5(2) yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i’r person perthnasol ddylunio, gweithredu a chynnal a chadw’r broses ddiheintio fel bod lefelau isgynhyrchion diheintio (DBPs) yn cael eu cadw mor isel â phosibl, heb amharu ar effeithiolrwydd y broses ddiheintio.
Mae DBPs yn cael eu ffurfio pan fydd diheintyddion yn adweithio â rhagsylweddion sy’n bresennol yn y dŵr. Deunydd organig naturiol (lliw/cyfanswm carbon organig) a mater anorganig (bromid) yw’r rhagsylweddion mwyaf arwyddocaol ar gyfer DBPs.
Er y gall amrywiaeth eang o DBPs gael eu ffurfio, y rhai mwyaf cyffredin yw trihalomethanau ar ôl i glorin adweithio â mater organig sy’n digwydd yn naturiol.
Mae’r Rheoliadau’n gosod gwerth paramedrig o 100µg/l ar gyfer trihalomethanau (h.y. grŵp o bedwar DBP, sef clorofform, bromofform, deubromocloromethan a bromodeugloromethan) a 10µg/l ar gyfer bromad.
Mae pob diheintydd cemegol a ddefnyddir yn gyffredin (er enghraifft clorin, clorin deuocsid, cloraminau ac osôn) yn adweithio â mater organig a/neu fromid i wahanol raddau i ffurfio DBPs gwahanol.[1]
Er hynny, dylai crynodiad y bromad lle defnyddir osôn a chrynodiad y clorit/clorad lle defnyddir clorin deuocsid neu sodiwm hypoclorit fel diheintydd gael ei asesu i ateb gofynion monitro DBPs fel rhan o’r asesiad risg.
Mae’r ffactorau sy’n dylanwadu ar y broses o ffurfio DBPs yn cynnwys:
- math a chrynodiad y diheintydd a ddefnyddir;
- crynodiadau deunydd organig a rhagsylweddion DBPs eraill sy’n bresennol yn y dŵr a gyflwynir i’w ddiheintio’n gemegol;
- tymheredd; pH; amser cyswllt;
- hyd y rhwydwaith dosbarthu.
Mae ystyriaethau gweithredu eraill yn yr asesiad risg yn cynnwys:
- diffyg prosesau trin (megis ceulo neu hidlo) a all gael gwared ar ddeunydd organig neu brosesau trin sy’n cael eu gweithredu neu eu cynnal a’u cadw mewn modd gwael;
- gweithredu prosesau trin mewn ffordd nad yw’n cyd-fynd â’u meini prawf dylunio, er enghraifft amser rhy hir ar gyfer hidlo neu ddosio diheintyddion;
- gwaddodion yn cronni mewn tanciau/siambrau neu’r rhwydwaith dosbarthu;
- mewnlif i danciau/siambrau neu’r rhwydwaith dosbarthu;
- dŵr hallt yn cyrraedd y dyfroedd gwreiddiol.
Dylai’r awdurdodau lleol annog personau perthnasol i ganolbwyntio’u gweithgareddau i gyfyngu gymaint â phosibl ar ffurfio DBPs drwy dynnu rhagsylweddion cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol ond heb amharu ar y broses ddiheintio ficrobaidd.
Dylid osgoi defnyddio dos gormodol o ddiheintydd.
Isod ceir rhestr o’r camau yr awgrymir y dylai’r personau perthnasol ystyried eu cymryd er mwyn lleihau ffurfiant DBPs. Bydd llawer o’r camau hyn yn cael effeithiau buddiol hefyd o ran sicrhau ansawdd dŵr yfed y cyflenwad dŵr:
- adolygu’r ffordd y mae prosesau derbyn dŵr crai yn cael eu rheoli;
- sicrhau bod y prosesau trin cyn diheintio yn cael gwared ar ddeunydd organig yn effeithiol;
- optimeiddio unrhyw gam cyn trin, gan gynnwys hidlo (os oes system hidlo);
- optimeiddio’r broses diheintio cysylltiadau er mwyn sicrhau bod y dos diheintydd yn gweithredu yn unol â’r cynllun;
- asesu pa mor briodol yw’r prosesau diheintio a ddefnyddir;
- fflysio a glanhau’r prif bibellau dosbarthu;
- rhoi rhaglen reolaidd ar waith i lanhau unrhyw danciau dŵr croyw a chronfeydd storio.
Rhaid i’r personau perthnasol allu dangos nid yn unig bod y broses ddiheintio wedi’i dylunio i fynd i’r afael â’r her sy’n bresennol yn y dŵr crai, ond ei bod yn gweithredu hefyd yn unol â meini prawf dylunio’r driniaeth.
Mae rheoliad 5(2)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i effeithiolrwydd y broses ddiheintio gael ei gynnal a’i ddilysu. Mae hyn yn golygu y dylai unrhyw broses ddiheintio fod yn addas at ei diben ac y dylai fod yn bosibl mesur a gwerthuso effeithiolrwydd y broses, yn unol a gofynion rheoliad 5(2)(c). Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio system fonitro ar-lein, gwaith samplu rheolaidd neu ddull arall a (d) sicrhau bod cofnodion ar gael i’r awdurdod lleol i gael eu harchwilio am gyfnod o bum mlynedd.
[1] Mae’r mathau eraill o DBPs a all ymffurfio yn cynnwys asidau haloasetig, haloaldehydau, halocetonau, hydrad cloral, haloasetonitrilau, deilliadau hydrocsiffwranon halogenaidd, nitrosominau, clorit, clorad a bromad.